Pwy yw PALS?
Llinell AIDS Powys a Gwasanaeth Gwybodaeth
Iechyd Rhywiol
rhyw diogelach? clicia yma am wybodaeth

Amcanion PALS:
Ddylai pobl ddim cael eu gorfodi teithio allan o'u ardal lleol i ddefnyddio gwasanaethau angenrheidiol
- rhai sy'n byw ag HIV, rhai sy'n poeni am fater iechyd rhywiol neu rhai sy'n chwilio am wybodaeth.
Rydym yn ymgyrchu dros wasanaethau lleol yng Nghanolbarth Cymru wledig.

Byddai pobl sy'n HIV+ yn ddioddef digon heb faich ychwanegol o ragfarn a stigma. Rydym yn credu
all gwybodaeth cywir - y ffeithiau - helpu i dorri i lawr rhwystrau anwybodaeth sy'n arwain at ragfarn.

Mae heintiau rhywiol yn cynnyddu ymhlith pobl ifainc. Mae'n rhaid ymwneud â'r problem hwn, trwy
wybodaeth cywir a thrafod agored. Byddwn ni am weld clinigau cymunedol - i gynnig profion a
thriniaeth heintiau rhywiol, fel rhan o strategaeth iechyd ar gyfer ieuenctid.

Gwaith PALS
Rydym yn darparu gwasanaeth cyfeillgarwch a chefnogaeth i bobl sy'n byw ag HIV ym Mhowys.
Rydym yn cynnig cwnsela cyn ac ar ôl prawf HIV.

Rydym yn darparu gwybodaeth a hyfforddiant ynglyn ag HIV/AIDS a materion eraill iechyd rhywiol,
ar gyfer asiantaethau cyhoeddus a gwirfoddol ac i'r cyhoedd. Mae gennym amrywiaeth o wybodaeth
am y triniaethau diweddaraf. Er i ni ddim yn cynnal llinell gymorth erbyn hyn, rydym yn croesawu
ymholiadau dros y ff
ôn. (Os chwiliwch am gymorth dros y ffôn... gwelwch 'Links' am rifau)

Rydym yn gweithio am wasanaethau sydd ar gael yn lleol, ar draws Cymru wledig. Ein cred ni
yw na ddylai pobl gael eu gorfodi teithio yn bell am wasanaethau angenrheidiol - p'un ai ydynt
yn byw ag HIV, ai'n pryderu am fater iechyd rhywiol, ai chwilio am wybodaeth cyffredinol.

Rhwydweithio - Rydym yn cymryd rhan mewn rhwydweithiau sy'n ymwneud ag HIV
a materion iechyd rhywiol dros Gymru, ac yn cadw mewn cyswllt ag amrywiaeth o asiantaethau
ac ymgyrchoedd dros Gymru a Phrydain.

Arian - Cefnogir PALS yn ariannol gan Gronfa Fawr y Loteri a Sefydliad Aids Elton John (EJAF UK).

Gwrando ar ieuenctid - Mae askPALS yn wasanaeth newydd ar y We, i ddarparu
gwybodaeth i bobl ifainc ac ymateb i'w cwestiynau nhw. Ewch at ein gwefan askPALS am y
gwasanaeth hwn.

 

 

ewch yn ôl i hafan PALS
cysylltwch â ni: info@powysaidsline.org.uk
pals po box 24 llandrindod LD1 6RD
ff
ôn 0845 223 5209