Bydd
yn gall - bydd yn saff
Gwisg gondom bob tro!
Gall unrhywun
sy’n cael rhyw fod mewn perygl o heintiau sy’n
cael
eu trosglwyddo’n rhywiol, heb son am nifer o bartneriaid yr wyt ti
wedi cael. Mae condoms yn dy helpu i wneud rhyw yn fwy diogel
gan amddiffyn rhag heintiau a beichiogrwydd anfwriadol.
Mae condoms yn gweithio gan atal i hylifau corff rhag symud o un
person i’r llall. Mae hyn yn lleihau risg o gael
haint. Gall gwisgo
condoms fod yn rhan o dy fywyd rhywiol. Mae dewis o liwiau,
siapau, blas... pa un fydd y gorau i ti a dy bartner?
Wyt
ti’n gwybod?
Yn
ôl ffigurau swyddogol, mae gan o leiaf un o bob deg
o oedolion ifainc (16-25 oed)
haint rhywiol fel clamydia neu gonorea. Gall heintiau fod heb unrhyw symptom
o
gwbl, ond maent yn effeithio’n ddifrifol ar dy iechyd. Ond mae triniaeth ar
gael i fwyafrif
ohonynt, felly cer at glinig iechyd rhywiol, cynllunio teulu neu GU (Genito-Urinary).
Ym
Mhowys,
mae clinigau GU yn Llanfair ym Muallt a’r Drenewydd.
Gall condom dy
amddiffyn rhag... o fwyafrif o heintiau rhywiol o HIV
- firws sy’n achosi Aids - sy’n dal
i fod heb iachâd o feichiogrwydd anfwriadol - mae’r bilsen atal cenhedlu (Pill)
yn
amdiffyn merched rhag feichiogrwydd, ond ddim rhag heintiau. I fod dwywaith
yn
sicr, wisg gondom hyd yn oed os yw’r ferch ar y bilsen.
Condoms
am ddim
Mae condoms ar gael am ddim
- o glinigau cynllunio teulu, iechyd rhywiol neu
glinigau ieuenctid, neu mewn nifer o glybiau ieuenctid trwy Powys Safer Sex
Enterprise (SSE).
Gall pobl hoyw
gysylltu â FLAG* Powys (Friends, Lesbian & Gay) am gondoms
ac iraid (‘lube’) am ddim. Mae condoms ar werth hefyd mewn archfarchnadoedd,
fferyllfeydd, gorsafoedd petrol, peirianau gwerthu mewn tafarndai, canolfannau
hamdden, colegau, trwy’r post neu dros y wê.
dilyn
y côd condom
1. Mae’n bwysig i ddewis gondom sydd â nod safon y Barcud
neu CE, ac edrych ar ddyddiad ‘dod i ben’.
2. Gall gwres ddifrodi condoms - mae’n bwysig i’w gadw mewn
lle oer a sych.
3. Agor y pecyn yn ofalus - paid â thorri neu ddifrod y condom.
4. Mae rhan fwyaf o gondoms wedi’i iro’n barod, ond os hoffi
di ddefnyddio iraid ychwanegol, gwnei’n siwr i ddefnyddio un
wedi’i seilio ar ddwr, fel KY. Paid â defnyddio iraid wedi’i
seilio ar olew, fel ‘vaseline’, olew babi, hufen dwylo -
maent yn difrodi’r condom a’i wneud yn anniogel.
5. Ar gyfer rhyw yr anws, peth pwysicach yw defnyddio digon
o iraid wedi’i seilio ar ddwr.
6. Wnei’n siwr i wisgo’r condom cyn dechrau rhyw treiddiol.
Ar ôl rhyw, diosg y condom tra bod y penis dal yn galed.
7. Mynd tramor? Cer â’th condoms dy hun.
8. Mae’n bwysig cael dy gondoms dy hun - paid â dibynnu
ar y person arall gael condoms.
Y
condom benywaidd
Mae condom i ferched, y ffemidom,
ar gael hefyd. Mae’n ffitio i mewn i’r fagina, ac
yn gallu cael ei ffitio unrhyw bryd cyn cael rhyw. Ar werth mewn fferyllfeydd
neu am
ddim mewn glinigau.
Pils
atal cenhedlu brys
Mae’r pilsen atal cenhedlu brys - ‘morning after pill’ -
ar gael o feddygon teulu, rhai fferyllfeydd ac ysbytai
lleol. I fod yn effeithiol, rhaid eu cymryd o fewn
3 diwrnod (72 oriau) ar ôl cael rhyw.
Am
wybodaeth, cymorth neu gyngor...
Clinigau
ym Mhowys - ffonia am fanylion ac amserau:
Aberhonddu: 01874 622 443
Llanfair ym Muallt: 01982 554 354
Llandrindod: 01597 828 789
Y Drenewydd: 01686 617 200
Y Trallwng: 01938 558 900
Ystradgynlais: 01639 846 465
ffynonellau gwybodaeth eraill...
Flag* Powys (Friends, Lesbian and Gay): 01874 712 727
neu wnei di gysylltu a PALS... 0845 223 5209
ewch
yn ôl i hafan PALS
cysylltwch
â ni:
info@powysaidsline.org.uk
pals po box 24 llandrindod LD1 6RD
ffôn
0845 223 5209